Ogof y Patriarchiaid

Ogof y Patriarchiaid
Mathmosg, synagog, beddrod, safle archaeolegol, mawsolëwm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Uwch y môr890 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.524672°N 35.110758°E Edit this on Wikidata
Map

Cyfres o ogofâu yw Ogof y Patriarchiaid neu Feddrod y Patriarchiaid sydd wedi'u lleoli 30 cilomedr (19 milltir) i'r de o Jeriwsalem, yng nghanol Hen Ddinas Hebron yn y Lan Orllewinol. Cant eu hadnabod gan yr Iddewon fel 'Ogof Machpelah' (Hebraeg: מערת המכפלה, Me'arat HaMakhpela; yn llythrennol mae'n golygu 'Ogof yr Ogofau Dwbwl'), ac i Fwslimiaid fel 'Cysegr Abraham' (Arabeg: الحرم الإبراهيمي, -Haram al-Ibrahimi). Yn ôl y crefyddau Abrahamaidd, prynwyd yr ogof a'r cae cyfagos gan Abraham fel man iddo gael ei gladdu.[1][2]

Beddrod Abraham (Ibrahim) yn ei greirfa uwchben yr ogofâu.

Dros yr ogof saif adeilad carreg caeedig petrual sy'n dyddio o oes Herod (37–4 CC).[3] Yn ystod rheol Bysantaidd y rhanbarth, adeiladwyd basilica ar y safle; troswyd y strwythur yn Fosg Ibrahimi yn dilyn concwest Mwslimaidd y Lefant. Erbyn y 12g, roedd y mosg a'r rhanbarthau o'i amgylch wedi dod o dan reolaeth gwladwriaeth y Croesgadwyr, ond cipiwyd nhw'n ôl yn 1188 gan y swltan Ayyubid Saladin, a drodd yr adeiladau'n fosg unwaith eto.[4]

Yn ystod Rhyfel Chwe Diwrnod 1967, atafaelwyd a meddiannwyd y Lan Orllewinol gyfan gan Wladwriaeth Israel, ac ar ôl hynny rhannwyd y strwythur yn synagog Iddewig a mosg.[5] Ym 1994, digwyddodd cyflafan Ogof y Patriarchiaid ym Mosg Ibrahimi, pan ddaeth terfysgwr o Israel i mewn i'r adeiladau ar wyl Iddewig y Purim - a oedd hefyd yn ystod cyfnod sanctaidd Islamaidd Ramadan - a saethwyd yn farwnifer o Fwslimiaid Palestina a oedd wedi wedi ymgynnull i weddïo yn y mosg, gan ladd 29 o bobl, gan gynnwys plant, a chlwyfo dros 125.[6]

Ystyria'r Iddewon mai'r safle hwn yw ail-le mwyaf sanctaidd yn Hen Ddinas Jerwsalem, ar ôl Mynydd y Deml.[6]

  1. Dever, William G. (2002). What Did the Biblical Writers Know, and when Did They Know It?: What Archaeology Can Tell Us about the Reality of Ancient Israel. Wm. B. Eerdmans Publishing. ISBN 978-0-8028-2126-3.
  2. Davidson, Linda Kay; Gitliz, David Martin. Pilgrimage: From the Ganges to Graceland: an Encyclopedia, Vol 1. t. 91.
  3. Jacobsson, David M. (2000). "Decorative Drafted-margin Masonry in Jerusalem and Hebron and its Relations". The Journal of the Council for British Research in the Levant 32: 135–54. doi:10.1179/lev.2000.32.1.135.
  4. "In Hebron, Israelis and Palestinians share a holy site ... begrudgingly". PRI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2018.
  5. Hammond, Constance A. Shalom/Salaam/Peace: A Liberation Theology of Hope. t. 37.
  6. 6.0 6.1 Fundamentalisms and the State: Remaking Polities, Economies, and Militance, University of Chicago Press, edited by Martin E. Marty, R. Scott Appleby, chapter authored by Ehud Sprinzak, p. 472

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in